Skip survey header

Arolwg Cymunedol Strategaeth Ansawdd Aer Caerffili

Cyflwyniad

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datblygu Strategaeth Ansawdd Aer mewn cydweithrediad â Ricardo, aelod o WSP. Nod yr arolwg hwn yw casglu barn y cyhoedd ar faterion ansawdd aer lleol er mwyn llywio’r Strategaeth.

Gall ansawdd aer effeithio ar iechyd pobl, ansawdd bywyd, a’r amgylchedd.

Mae’r Cyngor am ddeall profiadau a blaenoriaethau lleol fel bod y Strategaeth Ansawdd Aer yn adlewyrchu’r hyn sy’n bwysicaf i’n cymunedau.

Rydym yn ymgynghori er mwyn:

  • Deall pryderon lleol ynghylch ansawdd aer

  • Nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu

  • Sicrhau bod cynlluniau’r dyfodol yn cael eu llywio gan drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol

Diolch am eich diddordeb. Mae’r arolwg ar agor i bawb a hoffem glywed eich barn.

Mae’r arolwg yn cynnwys rhai cwestiynau penodol, ac yna flychau testun agored ar gyfer unrhyw sylwadau pellach, a dylai gymryd tua 5–10 munud i’w gwblhau.

Bydd yr wybodaeth bersonol a roddwch yn cael ei phrosesu yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Ceir rhagor o fanylion am sut rydym yn defnyddio eich data, eich hawliau, a sut i gysylltu â ni yn ein Hysbysiad Preifatrwydd yn Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r arolwg yw 20 Chwefror 2026.